Télécharger Imprimer la page

Datamars AirStick Guide De Démarrage Rapide page 19

Publicité

Les langues disponibles
  • FR

Les langues disponibles

Botwm
darllen
Darllen EID
Pwyswch y botwm darllen ar gefn y darllenydd i ddechrau
darllen. Pan fydd yr AirStick yn canfod EID, dangosir data'r
darlleniad ar y sgrin a chaiff ei gofnodi yn y sesiwn darlleniadau.
Mae'r cownter ar y sgrîn yn dangos sawl EID sydd wedi'i storio
yn y sesiwn presennol. Pan gaiff y ddyfais ei defnyddio am y tro
cyntaf, mae sesiwn darlleniadau eisoes ar gael wrth ddeffro'r
AirStick, heb ichi orfod creu un newydd.
Mae'r AirStick yn dangos darlleniad llwyddiannus trwy grynu,
rhoi hysbysiad sain, a bydd golau gwyrdd yn ymddangos ar yr
antena (mae'r golau yn fflachio'n goch yn ystod y darlleniad).
Pan fo'r ddyfais wedi'i gosod i'r modd parhaus, pwyswch y
botwm darllen eto i stopio darllen.
Os na chaniateir ailddarlleniadau, bydd neges ailddarlleniad yn
ymddangos ar sgrîn yr AirStick pan gaiff EID ei ddarllen eilwaith.
Pan mae'r ddyfais wedi'i chysylltu â dyfais allanol, caiff pob
darlleniad EID ei anfon tra byddwch wrthi'n gweithio. Sgroliwch i
lawr i ddewis y llwybr byr i argraffu cynnwys y sesiwn.
19
CYM

Publicité

loading