Cyn cychwyn
Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyfarwyddiadau sylfaenol ar gyfer
defnyddio eich AirStick.
Ceir gwybodaeth gyfredol am weithrediadau, dogfennaeth
www.
dechnegol a meddalwedd AirStick S-ID ar y wefan:
datamars.com/id-readers.
Argymhellwn ichi ddefnyddio meddalwedd S-ID (sydd yn y cof
bach USB). Bydd hyn yn caniatáu i chi reoli eich data, cael fersiynau
newydd o'r gadarnwedd neu newid y gosodiadau diofyn.
Efallai y bydd angen i chi ffurfweddu eich AirStick cyn ei
defnyddio am y tro cyntaf.
Sylwer: Sicrhewch fod y batri wedi'i wefru'n llawn cyn
defnyddio'r ddyfais am y tro cyntaf. Bydd hyn yn sicrhau oes
hirach i'ch batris.
Geirfa
EID: Electronic IDentifier – rhif adnabod trydanol.
VID: Visual IDentifier – Cod alffaniwmerig y gellir ei gysylltu ag EID ar y
darllenydd AirStick neu gyda'r feddalwedd S-ID. *
Cofnod: Cod alffaniwmerig y gellir ei gysylltu ag EID i nodi cyflwr penodol
yr anifail (grwpio, beichiogrwydd, brechiadau...). *
Chwyddwydr: Mae hwn yn dangos yr wybodaeth sydd bwysicaf i chi (EID,
VID neu cofnod) mewn ffont mwy.
Sesiwn darlleniadau: Ffeil cof sy'n cadw gwybodaeth y darlleniad bob tro y
darllenir EID. Yr enw diofyn ar sesiwn yw: RS dd-mm-yy.csv. *
Cownter: Dangos sawl EID sydd wedi'i storio yn y sesiwn presennol.
* Gweithrediadau y gellir eu haddasu gyda'r feddalwedd S-ID
14